Comelinid

Comelinidau
Hedychium gardnerianum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urddau

Grŵp mawr o blanhigion blodeuol monocotyledonaidd yw'r comelinidau (Saesneg: commelinids). Fe'u nodweddir gan gyfansoddion anarferol yn eu cellfuriau sy'n fflwroleuol mewn golau uwchfioled. Mae'r grŵp yn cynnwys nifer o blanhigion o bwysigrwydd economaidd megis palmwydd, bananas, sinsir a grawnfwydydd fel gwenith, indrawn a reis.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search